The essential journalist news source
Back
27.
June
2017.
Cyngor i deithwyr - cyngerdd Justin Bieber ddydd Gwener (30 Mehefin)

Cyngor i deithwyr - cyngerdd Justin Bieber ddydd Gwener (30 Mehefin)

Bydd Justin Bieber yn Stadiwm y Principality nos Wener fel rhan o'r "Purpose World Tour". Bydd y gatiau'n agor i gefnogwyr â thocynnau am 5.30pm.

Gyda disgwyl i 40,000 o bobl ymweld â'r ddinas, bydd rhai ffyrdd ar gau cyn y digwyddiad. Bydd Heol y Porth, Heol y Parc a Heol Scott yn cau am 6pm, gyda rhagor o ffyrdd yn cau os fydd angen am resymau diogelwch.

Ar ôl y gyngerdd, wrth i bobl adael y stadiwm, bydd rhannau o Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Heol y Castell, Heol y Dug a Stryd Wood hefyd yn cau.

Yn ôl Arriva Trains Cymru fe fydd gorsaf Heol-y-Frenhines yn cau am 9.45pm, a bydd trefn giwio yn ei lle yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd gwasanaethau ychwanegol cyfyngedig ar waith yn dilyn y cyngerdd a chynghorir cwsmeriaid i ddychwelyd i Orsaf Drenau Caerdydd Canolog yn syth.

Mae Stadiwm Principality wedi cyhoeddi polisïau newydd o ran dod â bagiau i mewn i'r stadiwm, yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn ag eitemau a waherddir a chwiliadau corfforol. Dim ond bagiau bach, dim mwy na 35cmx40cmx19cm a ganiateir yn y stadiwm.

Cynghorir y rheiny sy'n teithio â char i ddefnyddio'r Cyfleuster Parcio a Theithio ar gyfer Digwyddiadau yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd. O ystyried mai digwyddiad a gynhelir yng nghanol yr wythnos yw hwn, disgwylir y bydd meysydd parcio'r ddinas yn brysur.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 6pm tan 11.30pm:

  • Heol y Porth

  • Heol y Parc

  • Heol Scott.

  • Am resymau diogelwch, os oes angen, gall y cyngor gau Stryd Wood, Heol Eglwys Fair Isaf, gydag un lôn ar gau ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, ger Giât 1.

Ar ôl y digwyddiad rhwng 10.30pm a 11.30pm - dyma'r ffyrdd ychwanegol fydd ar gau:

  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan at y gyffordd â Heol y Porth.

  • Heol y Castell, Heol y Dug a Stryd Wood.

Yn ôl yr awdurdodau os oes unrhyw bryderon ynglŷn â diogelwch y system giwio yng Ngorsaf Drenau Caerdydd Canolog, yna bydd y ffyrdd canlynol ar gau nes bod y broblem yn cael ei datrys: Stryd Wood, Heol Y Porth, Heol Y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol Y Tollty.

Fedrwch chi feicio neu gerdded?

Efallai y bydd y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd yn dymuno beicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos i ni fod 52% o'r teithiau car sy'n cael eu gwneud ym Mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Gellid beicio'r pellter hwn mewn 20 munud yn hawdd. Rydym hefyd yn gwybod yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio i'r gwaith ar hyn o bryd wneud hynny. Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae beicio hyd yn oed yn fwy atyniadol gan y byddai mynd ar gefn beic yn gynt na gyrru yn ystod yr oriau brig neu pan fydd digwyddiadau mawr.

Trenau

Cynghorir teithwyr i brynu tocyn (un dwyffordd os oes angen) o'r peiriant/swyddfa docynnau cyntaf sydd ar gael neu oddi ar ap tocynnau Trenau Arriva Cymru cyn mynd ar y trên. Bydd Timau Gwarchod Refeniw yn gweithredu yn ystod y digwyddiad yma. Fel gyda phob digwyddiad mawr yng Nghaerdydd, cynghorir cwsmeriaid i gynllunio ymlaen llaw -www.arrivatrains.wales/events

Parcio a Theithio i'r Digwyddiad - Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae cyfleuster Parcio a Theithio'r Digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd (Lecwydd).

Codir tâl o £8 os ydych archebu tocyn ymlaen llaw trwywww.parkjockey.com/principality-stadiumneu £10 mewn arian parod ar y dydd.

Bydd staff ar gael yn y maes parcio o Hanner Dydd ymlaen a bydd y bws cyntaf yn gadael am 12.30pm a'r bws olaf yn gadael y man codi teithwyr am 11.30pm.

I deithio i'r cyfleusterau parcio a theithio gadewch yr M4 wrth Gyffordd 32. Y man gollwng i deithwyr yw Gogledd Ffordd Tresilian, y tu cefn i Orsaf Drenau Caerdydd Canolog.

Parcio ar Ddiwrnod y Digwyddiad

Gerddi Sophia- Bydd cyfleusterau parcio ar y dydd ar gael yng Ngerddi Sophia a'r gost fydd £15 mewn arian parod. Nid oes modd archebu o flaen llaw.

Bydd staff ar gael yn y maes parcio tan 11.30pm. I gyrraedd Gerddi Sophia gadewch yr M4 ar gyffordd 32.

Y GanolfanDdinesig - Rheolir mynediad i'r Ganolfan Ddinesig. Caniateir mynediad i barcio ar gyfer y gêm, llwytho ac i gael mynediad i feysydd parcio preifat. Bydd hyn yn amharu ar: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd Codir tâl o £15 i'w dalu ar y diwrnod mewn arian parod yn unig neu £12 os byddwch yn archebu tocyn ymlaen llaw trwyhttps://www.parkjockey.com/principality-stadium

Parcio Bysus

Mae parcio i fysus ar gael yn y Ganolfan Ddinesig a'r gost yw £20 i bob bws, i'w dalu ar y diwrnod. Nid oes modd archebu o flaen llaw.

Parcio i Bobl Anabl

Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd ychwanegol ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Ewch i'r gwefannau perthnasol i gael rhagor o wybodaeth.

Bysus

Bydd bysus yn cael eu dargyfeirio o safleoedd ynghanol y ddinas. Caiff bysus wedi eu dadleoli o safleoedd lle mae'r ffyrdd ar gau eu hail-leoli naill ai i Ffordd Churchill ar gyfer y Dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion ar gyfer y Gogledd neu Tudor Street ar gyfer y Gorllewin. Ewch i wefannau'r gwahanol gwmnïau bysus i weld y newidiadau i'w gwasanaethau:

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch iwww.cardiffbus.co.uk

Ar gyfer Gwasanaethau Teithio New Adventure, ewch ihttps://www.natgroup.co.uk/

Ar gyfer Gwasanaethau Stagecoach, ewch iwww.stagecoachbus.com

Parcio i Siopa

Dylai siopwyr fanteisio ar y safleoedd Parcio a Theithio dynodedig ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir.

Neu mae meysydd parcio ynghanol y ddinas ar gael:

Meysydd Parcio Heol y Gogledd

Canolfan Siopa Dewi Sant

John Lewis

Canolfan Siopa'r Capitol

NCP - Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion

National Express- bydd bysiau National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel arfer.

Tacsis -Tacsis - Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) ar gau o 6:00pm ac yn ail-agor am 11.30pm.

Nid effeithir ar Safle Tacsis Lôn y Felin a bydd ar agor trwy gydol y dydd a'r nos.

(diwedd)