‘Ailgylchu' ffordd fel rhan o gynllun ail-adeiladu £580,000
Mae rhan fawr o un o ffyrdd mwyaf Caerdydd wedi'i hail-adeiladu mewn cynllun a welsai ran o'r hen ffordd yn cael ei hailgylchu.
Yn hytrach nag ail-adeiladu'r ffordd o ddeunydd newydd sbon, dewisodd peirianwyr Cyngor Caerdydd ateb mwy cynaliadwy yn rhan o Grand Evanue, Trelái, mewn cynllun a gostiodd £580,000.
Roedd cyflwr gwael y ffordd ar Grand Avenue yn gysylltiedig â bowlderi mawr yn yr haenau o ffordd a barodd y tarmac i gracio, gan adael i ddŵr ddod i mewn a difrodi'r ffordd.
Cawsant eu codi a'u hanfon i ganolfan ailgylchu lle cawsant eu gwasgu a'u defnyddio fel rhan o sylfaen y ffordd newydd, ynghyd â deunydd a dynnwyd o'r arwyneb tarmac gwreiddiol.
Gosodwyd arwyneb Tarmac tair haen ar sylfaen y ffordd newydd.
Mae gwaith bellach wedi'i gwblhau ar 6,500 metr sgwâr o Grand Avenue, sef y rhan o'r ffordd yn y cyflwr gwaethaf.
Cloddiwyd tua 4,400 tunnell o ddeunydd i'w ddefnyddio yn y broses ailgylchu.
Byddai ail-adeiladu traddodiadol wedi cynnwys gwaredu tua 10,010 tunnell o ddeunyddiau, sy'n golygu bod fymryn yn llai na hanner y ffordd wedi'i ail-adeiladu gan ddefnyddio deunydd wedi'i ailgylchu.
Roedd ffyrdd ar gau am chwe wythnos wrth adnewyddu'r darn o ffordd ar Grand Avenue, heb effeithio'n ormodol ar drigolion a busnesau.
Caiff rhannau eraill o'r ffordd eu hail-wneud dros y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Rydym wedi bod yn gweithio i ail-adeiladu nifer o ffyrdd ledled y ddinas, a Grand Avenue yw un o'r projectau mwyaf hyd yma.
"Roedd y darn o Grand Avenue a adnewyddwyd mewn cyflwr gwael iawn a'n blaenoriaeth yw atal ffyrdd rhag dirywio i'r fath raddau.
"Fel gyda'n holl waith adeiladu, mae wedi'i ail-wneud i bara cyn hired â phosibl.
"Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu ailgylchu rhan o'r hen ffordd gan ddefnyddio ffordd fwy cynaliadwy o ail-adeiladu Grand Avenue."
Mae gwaith ail-adeiladu hefyd wedi'i wneud ar y ffyrdd canlynol:
• Rhydhelig Avenue, Y Mynydd Bychan, £260,000
• Caegwyn Road, Yr Eglwys Newydd, £47,000
• Tŷ Gwyn Road, Pen-y-Lan, £50,000
• Caeglas Road, Tredelerch, £120,000
• Llandennis Avenue, Cyncoed, £125,000
Bydd project newydd i'r dyfodol yn gweld cylchfan Croes Cwrlwys yn cael arwyneb newydd a fydd yn costio tua £170,000.
Bydd yr ardal y gosodir arwyneb newydd arni'n 6500m2a bydd Cyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg a fydd yn gwneud y gwaith o'r Tymbl i lawr i'r gylchfan.