The essential journalist news source
Back
7.
May
2024.
Prosiect celf lleol yn creu cwtsh darllen newydd i’r ysgol


7/5/24

Mae hen ardal ystafell gotiau lom mewn ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi cael ei thrawsnewid yn hafan ddarllen, diolch i ymdrechion ar y cyd gan dîm Gwasanaethau Gofalu y Cyngor, athrawon ac artistiaid gwirfoddol.


Erbyn hyn, mae gan ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 Ysgol y Berllan Deg yn Llanedern Gwtsh Darllen lliwgar a chlyd ar ôl i Sean Thomas o'r tîm gwaredu graffiti yn y Gwasanaethau Gofalu gydweithio gydag artistiaid lleol, Gary ac Amanda Piazzon, i weddnewid y gofod.

Syniad y plant oedd y prosiect, a oedd wedi sicrhau cyllid i brynu adnoddau darllen newydd gan Ffrindiau, sef Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol, ac a oedd eisiau ardal ddiogel a chyfforddus yn yr ysgol i fwynhau darllen a gweithio.


Aeth yr ysgol at City Art Project, menter a sefydlwyd gan Sean yn ei amser sbâr ei hun i wneud y mwyaf o dalentau artistiaid gwirfoddol lleol a chreu gwaith celf deniadol ledled y ddinas. Mae'r prosiect wedi trawsnewid tanffyrdd, cypyrddau cyfleustodau, waliau allanol ar adeiladau ysgol ac yn awr, y gornel fach hon o Ysgol y Berllan Deg, gan ddefnyddio paent a roddwyd gan gontractwyr y Cyngor drwy eu gweithgareddau gwerth cymdeithasol.

Travis Perkins oedd yn darparu'r cyflenwadau i Sean, Amanda a Gary fynd ati i weithio ar y waliau, a chafodd carped newydd ei roi a'i ffitio gan un o gydweithwyr Sean, Shaun Brady a'i frawd, Craig Brady.


Dywedodd Sian Ward, athrawes Ysgol y Berllan Deg a gydlynodd y prosiect gyda Sean: "Mae cynnwys City Art Project wedi ein galluogi i wneud i'r ystafell edrych yn hyfryd a dyma'r lle anhygoel yr oedd y plant a'r staff wedi'i ddymuno. Mae'r gwaith paent a'r dyluniadau celf a gwblhawyd gan Gary, Amanda a Sean wedi trawsnewid yr ystafell gan ddefnyddio syniadau ac awgrymiadau'r plant fel cynnwys.

"Mae CRhA yr ysgol hefyd wedi cefnogi'r plant ymhellach drwy ddarparu dodrefn a sachau ffa er mwyn gwella'r gofod. Mae'r lloriau newydd wedi helpu i greu amgylchedd cyfforddus a glân. Rydym yn gyffrous iawn i ddefnyddio ein Cwtsh Darllen!"

Dywedodd disgyblion ac athrawon Blwyddyn 6: "Cawsom y syniad o baentio ein hen ystafell gotiau tua blwyddyn yn ôl. Ers hynny, mae'r syniad wedi parhau i dyfu. Roeddem bob amser eisiau ystafell gyfforddus a chysurus i weithio a darllen ynddi. Rydym wedi bod yn edrych ymlaen at ddefnyddio'r ystafell sydd wedi'i phaentio'n hyfryd. Diolch am baentio'r ystafell anhygoel a hynny ar eich penwythnosau rhydd weithiau."

 

Dywedodd disgyblion ac athrawon Blwyddyn 5: "Diolch yn fawr iawn am eich amser a'ch gwaith. Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio ein cwtsh newydd a gwell ar ôl eich help i baentio'r waliau yn eich amser sbâr a threfnu i garped gael ei osod. Rydym yn gyffrous iawn i gael lle clyd a mwy croesawgar i ddisgyblion ac athrawon ddarllen a dysgu ynddo bob dydd. Rydym yn ffodus iawn ein bod wedi cael eich cymorth dros y misoedd diwethaf."