The essential journalist news source
Back
7.
May
2024.
Agor Ysgol Gynradd newydd sbon yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn swyddogol

7/5/2024

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg wedi dathlu agoriad swyddogol ei hadeilad newydd sbon gwerth £6m yn ystod digwyddiad arbennig ym mhresenoldeb Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a'r Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry.

A group of children holding a signDescription automatically generated

Gwnaeth y gwesteion fwynhau perfformiad gan rai o ddisgyblion yr ysgol a thaith o amgylch yr adeilad. 

Mae'r ysgol newyddyn natblygiad Sant Edern i'r dwyrain o ffordd gyswllt Pontprennauac agorodd ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf ym mis Medi ar ôl adleolio'i hen safle yn Llanrhymni.

 

Wedi'i chyflwyno'n rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd gan Halsall Construction ar ran Persimmon Homes, mae'r ysgol newydd yn un 1 dosbarth mynediad, gyda lle i 210 o ddisgyblion gan gynnwys meithrinfa ran amser 48 lle gyda'r cyfle i ehangu i 2 ddosbarth mynediad (â lle i 420) yn y dyfodol. Mae cyfleuster cymunedol yn gysylltiedig â'r ysgol gyda mynedfa breifat a mynedfa gydgysylltiol sy'n cynnig buddion i'r gymuned ehangach.

A couple of young boys in a classroomDescription automatically generated

Dywedodd y Pennaeth, Jane Marchesi:  "Mae pawb yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn llawn cyffro wrth ddathlu'r bennod newydd hon yn hanes yr ysgol, gan adeiladu ar sylfaen o atgofion hapus o fywyd yr ysgol yn Llanrhymni a Phentref Llaneirwg. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr holl gyfleoedd y bydd ein cyfleusterau newydd gwych yn eu cynnig i'n disgyblion, ein teuluoedd a'r gymuned leol.  Mae'n fraint bod yn gyfleuster allweddol yng nghalon y gymuned wych hon ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i deulu ein hysgol. Rydym am i ddisgyblion, staff, teuluoedd a'r gymuned deimlo bod hwn yn adeilad iddyn nhw, yn gartref lle gall y teulu cymunedol gwrdd, dysgu, cefnogi ei gilydd a ffynnu."

 

Yn gwasanaethu rhannau o Bontprennau a Phentref Llaneirwg, mae'r ysgol wedi ei hadleoli'n rhan o ddatrysiad strategol i ail-gydbwyso'r ddarpariaeth gynradd mewn rhannau o ogledd-ddwyrain Caerdydd yn sgil lleoedd gwag mewn ysgolion cynradd yn ardal Llanrhymni a'r angen am leoedd ychwanegol ym Mhentref Llaneirwg a rhannau o Bontprennau pan fydd datblygiad tai Sant Edern wedi'i gwblhau.

 

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Rwyf wedi bod yn falch iawn o allu mynd i agoriad swyddogol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, sydd ers dechrau'r flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi, wedi dechrau ar bennod newydd gyffrous, gan ei sefydlu ei hun yn ased yng nghalon ei chymuned.

 

"Mae'r ysgol yn darparu amgylchedd dysgu modern, effeithlon ac ysbrydoledig i staff a disgyblion, ac yn ogystal, mae'r cyfleusterau cymunedol yn yr ysgol yn rhoi mynediad i deuluoedd a thrigolion lleol i ystod o gyfleoedd. 

 

"Rwy'n edrych ymlaen at weld yn uniongyrchol sut y bydd yr adeilad newydd hyfryd hwn yn ei leoliad newydd, yn tyfu ac yn helpu i fodloni'r cynnydd yn y galw am leoedd ysgol i blant o Hen Laneirwg, Pontprennau, Llanrhymni a'r rhai sy'n byw yn natblygiad Sant Edern."

A group of people posing for a photoDescription automatically generated

 

Dywedodd Richard Summers, Cyfarwyddwr Masnachol Persimmon Homes Dwyrain Cymru:  "Mae Persimmon Homes Dwyrain Cymru'n falch iawn o fod wedi cyflwyno'r ysgol newydd hon yn Sant Edern fel rhan o'n hymrwymiad i adael etifeddiaeth gadarnhaol a pharhaol lle rydym yn adeiladu.

 

"Roedd yn bleser gweld cynifer o bwysigion a rhanddeiliaid lleol yn agoriad yr ysgol ac i weld yr effeithiau cadarnhaol y mae eisoes yn eu cael ar y gymuned leol.

 

"Bydd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn darparu cyfleoedd addysgol am genedlaethau i ddod, ac mae Persimmon yn falch o fod wedi chwarae ein rhan yn gweithio gyda phartneriaid allweddol, Halsall a Chyngor Caerdydd, i gyflwyno'r ysgol newydd yn Sant Edern."

A person and two girls playing with a puzzleDescription automatically generated

Mae Sant Edern yn ddatblygiad yng ngogledd-ddwyrain y ddinas fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd, sy'n nodi'r seilwaith sydd ei angen i hwyluso a chynnal twf y ddinas hyd at 2026.

Mae'r ysgol wedi bod fel rhan o'r cytundeb cynllunio gyda'r Cyngor, ac wedi'i ariannu'n rhannol drwy gyfraniadau Adran 106.