Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, yn cwmpasu: arweinwyr cynghorau'n galw am becyn cymorth i gynorthwyo dinasoedd; achosion a phrofion COVID-19;diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion; Boston, Risman a Sullivan, dewis y bobl ar gyfer cerflun Torwyr Cod Bae Caerdydd; a 100 o goed Ceirios fel symbol o gyfeillgarwch rhwng y Deyrnas Gyfunol a Japan i gael eu plannu ym Mharc y Mynydd Bychan.
#CadwchGaerdyddYnDdiogel
Darllenwch y rheolau ar-lein
https://llyw.cymru/coronafeirws
Arweinwyr cynghorau'n galw am becyn cymorth i gynorthwyo dinasoedd
Mae arweinwyr y tri chyngor mawr yng Nghymru yn galw am becyn cymorth cynhwysfawr a sylweddol i helpu dinasoedd drwy'r pandemig.
Mae'r rheini sy'n arwain Cyngor Caerdydd, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Abertawe yn dweud er bod awdurdodau lleol yn cymryd camau gweithredu uniongyrchol, ac yn gwneud buddsoddiadau sylweddol o hyd, mae'r argyfwng yn effeithio'n wael ar ddinasoedd.
Daethpwyd â'r her i'r amlwg yr wythnos hon gan anawsterau cwmnïau manwerthu mawr Arcadia a Debenhams.
Mae Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe gyda'i gilydd yn cyflogi degau ar filoedd o bobl yn y sectorau manwerthu a lletygarwch.
Mewn datganiad ar y cyd, meddai'r Cynghorwyr Huw Thomas, Jane Mudd a Rob Stewart, arweinwyr cynghorau Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe:"Mae'r newyddion am Arcadia a Debenhams yn ergyd ddifrifol i ddinasoedd Cymru.
"Gallai'r cyhoeddiadau hyn o bosib gael effaith ddomino drychinebus ar fanwerthwyr eraill sy'n dibynnu ar nifer y siopwyr sy'n cael eu denu gan y siopau angor.
"Gallai'r effaith fod yn eang hefyd - os bydd y dinasoedd yn ei chael hi'n anodd, bydd pawb yn ei chael hi'n anodd.
"Mae angen pecyn cymorth cynhwysfawr a sylweddol i helpu dinasoedd drwy'r heriau."
Cydnabu'r arweinwyr fod y pandemig wedi cael effaith ar bob cymuned. Fodd bynnag, dywedon nhw fod:
- Y pandemig yn effeithio ar ddinasoedd yn waeth, ym mhob ffordd;
- Mae ei effeithiau iechyd yn ddwysach ac yn fwy difrifol mewn dinasoedd;
- Mae'r ymagwedd stopio-dechrau at yr economi yn cael effaith ddofn a niweidiol ar y sectorau manwerthu a lletygarwch sy'n nodweddu economïau dinasoedd;
- Mae Cymru a'i rhanbarthau'n dibynnu ar ddinasoedd fel peiriannau twf economaidd.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25354.html
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (25 Tachwedd - 1 Rhagfyr)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
3 Rhagfyr
Achosion: 968
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 263.8 (Cymru: 252.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 6,464
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,761.8
Cyfran bositif: 15.0% (Cymru: 14.5% cyfran bositif)
Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers
Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/
Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 04.12.20
Ysgol Gynradd Oakfield
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Oakfield. Mae 29 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 3 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Windsor Clive
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Windsor Clive. Mae 56 o ddisgyblion Blwyddyn 2 a 3 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Pen-y-bryn
Mae tri achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd Pen-y-bryn. Mae 56 o ddisgyblion Blwyddyn 2 a Blwyddyn 6 a 6 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru yr Esgob Llandaf
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru yr Esgob Llandaf. Mae 34 o ddisgyblion Blwyddyn 11 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Kitchener
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Kitchener. Mae 18 o ddisgyblion Dosbarth Meithrin a 6 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Severn
Cadarnhawyd achos positif o COVID-19 yn Ysgol Gynradd Severn. Mae 28 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 4 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd. Mae 30 o ddisgyblion Blwyddyn 4 ac un aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog
Mae tri achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog. Mae 160 o ddisgyblion Blwyddyn 11 a 162 o ddisgyblion Blwyddyn 7 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant. Mae 197 o ddisgyblion Blwyddyn 7 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Hawthorn
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Hawthorn. Mae 30 o ddisgyblion Blwyddyn 4 ac 1 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Trelái
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Trelái. Mae 87 o ddisgyblion Blwyddyn 2 a 6 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Bro Eirwg
Mae tri achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Bro Eirwg. Mae 143 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 11 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd y Dwyrain
Mae tri achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Mae 100 o ddisgyblion Blwyddyn 9, 10 ac 11 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Albany
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Albany. Mae 26 o ddisgyblion Blwyddyn 1 ac 1 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Pontprennau
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Pontprennau. Mae 59 o ddisgyblion Blwyddyn 3 ac 1 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Sant Cuthbert
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Sant Cuthbert. Mae 21 o ddisgyblion Blwyddyn 5 ac 1 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd Willows
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Willows. Mae 21 o ddisgyblion Blwyddyn 11 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd Llanisien
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Llanisien. Mae 27 o ddisgyblion Blwyddyn 13 ac 1 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Boston, Risman a Sullivan - dewis y bobl ar gyfer cerflun Torwyr Cod Bae Caerdydd
Mae tri o chwaraewyr enwocaf rygbi'r gynghrair yn hanes y gêm - Billy Boston, Gus Risman a Clive Sullivan - wedi cael eu dewis i addurno cerflun i goffáu Torwyr Cod Bae Caerdydd.
Cytunodd y cyhoedd a phanel arbennig o arbenigwyr ar y triawd a fydd bellach yn cael eu hanfarwoli ar gerflun a fydd yn cynrychioli'r holl chwaraewyr aeth i Ogledd Lloegr o ardal Bae Caerdydd i ddisgleirio yn y gêm 13 bob ochr.
Cynigiwyd rhestr i'r cyhoedd o 13 o gyn-fawrion a aned oll yn ochrau Tiger Bay, Butetown, Grangetown, Adamsdown a Sblot yn ne Caerdydd, a'u gwahodd i bleidleisio dros eu hoff dri.
Yna dyfarnwyd pwyntiau ychwanegol i'r chwaraewyr i gyd am eu llwyddiannau gyrfaol gerbron panel cryf o saith arbenigwr, gan gynnwys capteiniaid presennol timau rygbi'r gynghrair dynion a menywod Cymru, Elliot Kear a Rafique Taylor, yn ogystal â'r anfarwol Jim Mills a Jonathan Davies, a chyflwynwyd y chwe dewis uchaf.
Cawsant gyfle i ddewis eu tri uchaf, gan ennill pwyntiau ychwanegol ar gyfer eu dewisiadau i gwblhau'r broses ddethol. Roedd pob aelod o'r panel yn cytuno â'r bleidlais gyhoeddus ac felly bydd Boston, Risman a Sullivan yn awr yn ymuno ar blinth a fydd hefyd yn cofio'r 10 chwaraewr arall.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25358.html
100 o goed Ceirios fel symbol o gyfeillgarwch rhwng y Deyrnas Gyfunol a Japan i gael eu plannu ym Mharc y Mynydd Bychan
Caiff 100 o goed Ceirios eu plannu ym Mharc y Mynydd Bychan fel rhan o Prosiect Coed Ceirios Sakura, prosiect lle caiff miloedd o goed sakura eu plannu ledled y DG.
Yn ogystal â'r coed ym Mharc y Mynydd Bychan, caiff coed eu plannu hefyd mewn pum ysgol yng Nghaerdydd: Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Gynradd Kitchener. Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru St Monica, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd.
Cynhaliwyd lansiad Cymru y prosiect, sy'n rhan o Dymor Diwylliant Japan a'r Deyrnas Gyfunol, heddiw (4 Rhagfyr) yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
Yn siarad cyn y lansiad, dwedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich: "Mae'n anrhydedd gwirioneddol i Gaerdydd gael ei dewis i dderbyn cymaint o'r coed ceirios hyfryd hyn, a fydd, rwy'n deall yn blodeuo ymhell i'r ganrif nesaf fel symbol hirhoedlog o'r cyd-ddealltwriaeth rhwng ein gwledydd."
Dywedodd Conswl Anrhydeddus Japan, Keith Dunn OBE: "Mae'r coed hyn yn symbol cryf o'n cyfeillgarwch y gall cenedlaethau'r dyfodol ei gefnogi a'i fwynhau ac rydym yn gobeithio y caiff y planhigion newydd hyn eu cofleidio gan ein cymunedau i'r dyfodol.
"Ein cenhadaeth yw creu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a dod ag arwydd o'r berthynas rhwng y DG a Japan i'n cymunedau. Wrth i ni fwynhau'r blodau ceirios bob gwanwyn, byddant yn ein hatgoffa o dymor newydd o gydweithio posibl a chyfeillgarwch sy'n tyfu."
I roi'r cyfle gorau i'r coed oroesi, caiff y plannu ei wneud yn gynnar yn nhymor plannu coed 2021.
Cynrychiolir Prosiect Coed Ceirios Sakura yn Japan gan Gymdeithas Prydain Japan, a'i phrif rôl yw codi arian ar gyfer y prosiect, ac yn y DG gan bwyllgor arbennig a gynullwyd gan Gwmni Matsuri Japan(sefydliad a gyd-reolir gan Gymdeithas Japan, Siambr Fasnach a Diwydiant Japan yn y DG, Cymdeithas Japan yn Llundaina Chlwb Nippon).