The essential journalist news source
Back
3.
May
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 03 Mai 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Cyngor teithio ar gyfer Bruce Springsteen a E Street Band ar 5 Mai yng Nghaerdydd
  • Ysgol Gynradd Moorland yn dathlu cwblhau datblygiad ysgol newydd
  • Celf wal newydd ar gyfer Stryd Tudor lliwgar
  • Galiwn o Sbaen i lanio ym Mae Caerdydd

 

Cyngor teithio ar gyfer Bruce Springsteen a E Street Band ar 5 Mai yng Nghaerdydd

Bydd Bruce Springsteen a'r E Street Band yn cychwyn eu Taith Byd 2024 ar 5 Mai 2024 yn Stadiwm Principality Caerdydd. Bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 4pm, felly bydd ffyrdd canol y ddinas yn cau o gwmpas y stadiwm o 2pm tan hanner nos am resymau diogelwch.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y cyngerdd, felly cynlluniwch ymlaen llaw ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS.

Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar  wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Mae pobl sy'n mynd i'r cyngerdd yn cael eu cynghori'n gryf i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig ar  principalitystadium.wales, yn enwedig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Ysgol Gynradd Moorland yn dathlu cwblhau datblygiad ysgol newydd

Mae gwaith sylweddol i ailddatblygu a gwella cyfleusterau yn Ysgol Gynradd Moorland yn Sblot wedi'u cwblhau. 

Mae'r buddsoddiad o £7 miliwn wedi sicrhau Canolfan Adnoddau Arbenigol newydd ag 20 lle yn yr ysgol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth ac Uned Blynyddoedd Cynnar newydd yr oedd yn hanfodol iddi gael ei diweddaru.

Mae darpariaeth Dechrau'n Deg newydd, Twinkle Star, hefyd wedi'i darparu gan gynyddu nifer y lleoedd o 32 i 40 gyda'r potensial ar gyfer 6 lle cynnig gofal plant ar gyfer plant 3 a 4 oed a fydd ar gael maes o law. Bydd hyn yn galluogi plant i symud draw o'r safle Dechrau'n Deg presennol yn Ysgol Uwchradd Willows sydd i'w hadleoli a'i hailgodi ar dir oddi ar Heol Lewis yn 2026.

Bydd y cyfleuster campws cymunedol newydd yn darparu addysg ynghyd â gwasanaethau cymorth i deuluoedd er budd teuluoedd o'r cyfnod cyn-geni, ac sydd â babanod a phlant hyd at oed cynradd. Yn ogystal, mae'r cynllun hefyd wedi darparu Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd newydd, gwell mannau awyr agored, nodweddion draenio cynaliadwy ac ystafell gymunedol newydd a crèche ar gyfer rhianta a defnydd cymunedol. Mae'r hen dŷ gofalwr wedi ei ddymchwel ac mae Clwb Bocsio Amatur Splott Adventure wedi cael ei adleoli i Parc y Cefnfor.

Darllenwch fwy yma

 

Celf wal newydd ar gyfer Stryd Tudor lliwgar

Murlun newydd bywiog yw'r ychwanegiad diweddaraf at waith celf a strydlun lliwgar ffordd a adfywiwyd yn ddiweddar yng nghanol y ddinas.

Lili'r dŵr pinc cain yw canolbwynt y paentiad newydd a gynhyrchwyd gan yr artist lleol, Rmer One, ar ochr adeilad Canolfan Iechyd Meddygaeth Tseiniaidd Draddodiadol sy'n eiddo i Mr Pak Hong Lam ar Stryd Tudor.

Y murlun yw'r darn mwyaf newydd o gelf yn ardal Stryd Tudor lle mae cynllun adfywio mawr, gan gynnwys gwelliannau masnachol, amgylcheddol a thrafnidiaeth, sydd wedi'i gwblhau yn ddiweddar.

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru drwy ei fentrau Trawsnewid Trefi a Theithio Llesol yn ogystal â buddsoddiad Cyngor Caerdydd, mae'r cynllun wedi darparu amgylchedd dymunol a chroesawgar i fusnesau, trigolion a'r gymuned ehangach gyda ffryntiadau lliwgar newydd i siopau, palmentydd newydd, celfi stryd a goleuadau a seilwaith gwyrdd newydd, gan hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth a gwell ansawdd aer.

Mae yna ynys fysus newydd sy'n hwyluso teithio ar fws i'r Sgwâr Canolog a chanol ehangach y ddinas, lôn feicio ar wahân newydd, palmentydd mwy llydan a chroesfannau gwell i gerddwyr i gyd wedi helpu i wella'r amgylchedd lleol ar hyd Stryd Tudor.

Darllenwch fwy yma

 

Galiwn o Sbaen i lanio ym Mae Caerdydd

Ar un adeg roedd galiynau Sbaenaidd yn croesi Cefnfor yr Iwerydd i arfordir America, yn hwylio Môr y Caribî ac yn archwilio'r Cefnfor Tawel, gan ddarganfod a sefydlu llwybrau masnach ar ran Coron Sbaen - ac nawr mae galiwn yn dod i Fae Caerdydd i'r cyhoedd ei harchwilio.

Mae Amgueddfa Arnofio Galiwn Andalucia yn replica unigryw o'r llongau masnachol arfog a ddefnyddiwyd ar gyfer y teithiau morwrol hyn o'r 16eg tan y 18fed ganrif a bydd yn docio yng Nghei Britannia ABP cyn agor i'r cyhoedd o ddydd Gwener 10 Mai tan ddydd Sul 12 Mai rhwng 10am ac 8pm.

Mae'r ymweliad yn cynnwys taith gerdded hunan-dywys gyda'r cyfle i archwilio chwe dec, arddangosfeydd rhyngweithiol a dogfennau hanesyddol, gwylio fideos, tynnu lluniau a chwrdd ag aelodau'r criw.

Mae tocynnau'n costio £12 i oedolion, a £6 i blant 5-10 oed (mae plant dan 5 oed am ddim). Mae tocynnau teulu ar gyfer dau oedolyn a hyd at dri phlentyn ar gael am £30. Gellir prynu tocynnau ymlaen llaw ynhttps://bit.ly/3WgiP5Eneu ar y llong. Gall ysgolion a sefydliadau drefnu ymweliad drwy gysylltu agecampos@velacuadra.es.

Darllenwch fwy yma