The essential journalist news source
Back
7.
May
2024.
2,500 o wirfoddolwyr yn helpu coedwig ddinesig Caerdydd i dyfu 30,000 o ran ei maint

7.5.24

Heriodd 2,500 o wirfoddolwyr cymunedol un o'r gaeafau gwlypaf a gofnodwyd erioed er mwyn helpu i blannu 30,000 o goed mewn dim ond 6 mis, fel rhan o brosiect i greu coedwig ddinesig yng Nghaerdydd.

"Mae'r amodau gwlyb yn wych ar gyfer y coed newydd," eglurodd Rheolwr y Prosiect, Chris Engel, "maen nhw'n amsugno'r cyfan, ond roedd yn golygu i ni gael rhai diwrnodau eithaf mwdlyd. Ond dyw e byth yn dampio'r ysbryd. Mae plannu coed nid yn unig yn dda i'r blaned, mae'n dda i'r enaid hefyd a hyd yn oed os aethon nhw adref yn fwd o'u corun i'w sawdl, dwi ddim yn cofio diwrnod pan nad oedd gwên ar wynebau ein gwirfoddolwyr chwaith."

Wedi'i sefydlu yn 2021 fel rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned Cyngor Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd, mae prosiect Coed Caerdydd (Coedwig Caerdydd) wedi arwain at blannu 80,000 o goed newydd mewn 280 o wahanol safleoedd yng Nghaerdydd, gan gynnwys mwy na 100 o barciau a mannau agored, 17 ysgol wahanol ac 11 safle cymunedol yn ogystal ag ar dir preifat. Y tymor hwn mae'r prosiect wedi cynyddu ei ffocws ar goed stryd, gyda mwy na 200 o goed stryd mawr newydd wedi'u plannu ar strydoedd sydd heb orchudd canopi coed neu braidd dim o gwbl.

A group of people posing for a pictureDescription automatically generated

Gwirfoddolwyr yn dathlu plannu coeden arall.

Wrth gofio am wirfoddoli gyda'r prosiect, dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke; "Ro'n i'n lwcus gyda'r tywydd felly efallai na chefais y profiad llawn, ond roedd y cyfuniad o fod yn yr awyr agored a gwneud rhywbeth 'ymarferol' i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn brofiad cadarnhaol iawn. Rwy'n gallu gweld pam fod llawer o'n gwirfoddolwyr yn dychwelyd wythnos ar ôl wythnos - mae'n bendant yn rhywbeth y byddwn i'n annog eraill i gymryd rhan ynddo.

"Mae'r hyn a gyflawnwyd trwy Goed Caerdydd mewn tri thymor plannu byr yn gyflawniad gwych - tua 24 hectar o dir wedi eu plannu â choed newydd a fydd wrth iddynt dyfu yn helpu i amsugno allyriadau carbon, lleihau llygredd aer, cefnogi bioamrywiaeth, ac yn bwysig iawn os ydym am barhau i gael y math o aeafau rydyn ni newydd eu cael,  helpu i leihau'r perygl o lifogydd."

A group of people standing in a fieldDescription automatically generated

Gwirfoddolwyr yn mentro allan yn y tywydd gwlyb i blannu coeden arall.

Ychwanegodd Chris Engel:  "Ers i'r Cyngor ddechrau'r prosiect mae dros 10,000 o oriau wedi cael eu gwirfoddoli sy'n anhygoel mewn gwirionedd, ac nid plannu coed yn unig y gall pobl ei wneud i helpu - mae 'na wastad ddigon i'w wneud dros fisoedd yr haf hefyd.

"Gallwn bob amser wneud â help llaw yn y blanhigfafa goed, yn gofalu am ein stoc coed fel ei fod yn aros yn iach, yn barod i'w blannu y tymor nesaf ac yna mae gennym ein Gwarcheidwaid Coed sy'n gwirfoddoli i'n helpu i ofalu am y coed sydd newydd eu plannu a sicrhau eu bod yn cael digon o ddŵr dros y misoedd sychach yn yr haf."

I weld y cyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf, dilynwch www.eventbrite.com/o/coed-caerdydd-46791623513

Os oes gennych awgrymiadau ar gyfer mannau cyhoeddus, ysgolion neu safleoedd cymunedol a fyddai'n elwa o rai coed newydd yn y tymor plannu nesaf, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli fel Gwarcheidwad Coed, e-bostiwch:prosiectcoedcaerdydd@caerdydd.gov.uk

 

Niferoedd Coed Caerdydd 2023/24

  • Rhwng 23 Tachwedd a 24 Ebrill plannwyd dros 30,000 o goed mewn 150 o safleoedd yng Nghaerdydd gyda chymorth 2,500 o wirfoddolwyr.
  • Rhoddwyd 1,167 o goed i 211 o aelwydydd.
  • Rhoddwyd 1,300 o goed i 14 o grwpiau cymunedol ac ysgolion ledled Caerdydd.