The essential journalist news source
Back
12.
May
2025.
Hyrwyddo amgylcheddau dysgu diogel i ddisgyblion a staff

12/05/25

Mae Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion yn fannau diogel lle mae plant, pobl ifanc a staff yn cael eu trin â pharch ac urddas, mewn amgylchedd dysgu meithringar a chadarnhaol.

A group of people in a green and white signAI-generated content may be incorrect.

 

Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddiogelwch a lles myfyrwyr a staff, mae Cyngor Caerdydd wedi lansio ymgyrch newydd sy'n hyrwyddo amgylcheddau dysgu diogel i bawb sy'n eu mynychu.

Mae'r prif ffocws ar atgoffa cymunedau ysgol bod gan ddisgyblion a staff ysgolion hawl i fynychu eu lleoliad addysg, yn rhydd o gamdriniaeth ac unrhyw fath o ymosodiad ac na fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei ganiatáu a bod cadw ysgolion yn ddiogel yn ymdrech gydweithredol rhwng disgyblion, rhieni, ysgolion a'u cymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Rydym eisiau anfon y neges bod Caerdydd wedi ymrwymo i hyrwyddo amgylcheddau dysgu diogel a chadarnhaol i'r holl ddisgyblion a'r staff o'u cwmpas.

"Mae pob plentyn yn haeddu dysgu mewn amgylchedd sy'n rhydd o ofn a thrais a dylai ysgolion fod yn lleoedd diogel i ddisgyblion lle gallant ddysgu, datblygu a ffynnu. Mae'n hanfodol ar gyfer llwyddiant academaidd, iechyd meddwl, perthnasoedd cadarnhaol, cynhwysiant, a pharatoi myfyrwyr ar gyfer y dyfodol. Rydym hefyd eisiau ategu bod ysgolion yn darparu gwasanaeth hanfodol ac ni fydd unrhyw fath o gam-drin ysgrifenedig, llafar neu gorfforol tuag at staff yn cael ei ganiatáu - rydym eisiau anfon neges glir iawn i'n staff ysgol ein bod yn eu cefnogi.

Mae'n hanfodol bod ein cymunedau ysgol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod ein hysgolion yn lleoedd diogel a thrwy feithrin diwylliant o barch, cynhwysiant a dim trais, rydym yn grymuso myfyrwyr i ganolbwyntio ar eu haddysg a'u twf personol a galluogi staff i addysgu'n effeithlon."