The essential journalist news source
Back
14.
May
2025.
Caerdydd yn croesawu Hyb Newydd y Gwasanaeth Sifil
 14/06/25

 Mae Cyngor Caerdydd wedi croesawu'r cyhoeddiad bod prifddinas Cymru wedi'i dewis fel un o'r 12 hyb rhanbarthol newydd ar gyfer adleoli'r Gwasanaeth Sifil y tu allan i Lundain.

Rhagwelir y bydd hyn yn dod â gwerth £729 miliwn o fudd economaidd i’r 13 ardal twf erbyn 2030.

Bydd y fenter hon yn arwain at 12,000 o swyddi, gan gynnwys 50% o rolau uwch a Swyddogion Llwybr Carlam (cynllun llwybr carlam i raddedigion Llywodraeth y DU) yn symud allan o Lundain, gan gynnig llwybrau gyrfa hyfyw i bobl sy'n gadael yr ysgol hyd at ysgrifenyddion parhaol mewn dinasoedd ledled y DU.

 Bydd yr adleoli hefyd yn cynnwys cyfleoedd am secondiad rhwng llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, gan gyfrannu at wasanaeth cyhoeddus mwy integredig.

 Mae sefydlu hyb newydd yng Nghaerdydd yn rhan o strategaeth i adael 11 adeilad yn Llundain, gan arbed £94 miliwn ac o bosibl yn cynnwys 12,000 o rolau i gyd.

Caerdydd yw'r unig hyb yng Nghymru, gan ymuno â dinasoedd eraill fel Belfast, Aberdeen, Glasgow, Caeredin, Bryste, Sheffield, Leeds, Birmingham, Newcastle, Manceinion Fwyaf, Darlington a Chaerefrog.

Ar hyn o bryd, mae 9,230 o rolau’r gwasanaeth sifil wedi eu lleoli yng Nghaerdydd. Mae dros 31,500 o rolau cyfwerth ag amser llawn wedi eu lleoli yng Nghymru, gyda 14 o brif adrannau’r Llywodraeth â phresenoldeb yn y wlad. Bydd miloedd yn fwy o swyddi’r llywodraeth nawr yn cael eu symud i’r 13 o ddinasoedd a threfi ledled y DU.

 Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol i Gaerdydd ac yn dystiolaeth o’n hymdrechion hirdymor i baratoi'r ffordd ar gyfer cyfleoedd o'r fath. Bydd hyb newydd y Gwasanaeth Sifil nid yn unig yn dod â swyddi o ansawdd uchel i'n dinas, ond bydd hefyd yn cryfhau ein safle allweddol yn nhirwedd sector cyhoeddus y DU. Gallai hyn roi momentwm gwirioneddol i Gampws Swyddfa Glanfa’r Iwerydd, Sgwâr Canolog a’r Cei Canolog fel lleoliadau swyddfa o'r radd flaenaf sy'n denu buddsoddiad pellach."

 Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Rwy'n falch iawn o groesawu hyb y Gwasanaeth Sifil i Gaerdydd. Mae'r cam hwn yn cyd-fynd yn berffaith â'n strategaeth datblygu economaidd, sydd wedi canolbwyntio ar greu marchnad swyddi fywiog a meithrin cysylltiadau cryf rhwng llywodraeth leol a chanolog. Mae'r llwybrau gyrfa a amlygwyd yn adlewyrchu ein cynigion a gyflwynwyd yng nghynhadledd y gwasanaeth sifil yn ddiweddar, y gwnaethon ni eu galw’n llwybrau. Bydd yr hyb yn darparu cyfleoedd gyrfa ardderchog i'n preswylwyr ac yn cyfrannu at dwf a ffyniant cyffredinol Caerdydd. Mae hefyd yn cyfiawnhau'r ffocws yr ydym wedi'i roi ar raglen y Gwasanaeth Sifil "Mwy a Gwahanol" yn ystod y blynyddoedd diwethaf, lle rydym wedi gallu tynnu sylw at y sgiliau newydd sydd eu hangen ar y gwasanaeth sifil e.e. gellir cyflawni Seiber, Technoleg Ariannol, Deallusrwydd Artiffisial yng Nghaerdydd, a chreu llwybrau i gael mynediad at sgiliau a’u datblygu."

Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio'n weithredol i ddenu swyddi'r llywodraeth i'r ddinas, gan gynnwys adleoli canolfan ranbarthol CThEF yn llwyddiannus yng Nghaerdydd, yn y Sgwâr Canolog. Symudodd tua 4,000 o weithwyr o amrywiol swyddfeydd llai i un cyfleuster o'r radd flaenaf, gan wella effeithlonrwydd a darparu gwasanaethau gwell i'r cyhoedd.

 Mae'r rhaglen Mwy a Gwahanol wedi bod yn rhan allweddol o strategaeth Cyngor Caerdydd i arallgyfeirio a moderneiddio'r economi.

Mae tîm datblygu economaidd Cyngor Caerdydd hefyd wedi bod yn allweddol mewn sawl llwyddiant arall, gan gynnwys:

  • Prosiect Metro Canolog: Sicrhau cyllid mewn egwyddor trwy gyllid Bargen Ddinesig, gyda'r potensial i gefnogi hyd at 30,000 o swyddi ychwanegol 
  • Llynnoedd Hendre/Parcffordd Caerdydd: Cyfraniad sylweddol at adfywio dwyrain Caerdydd drwy ddod â chysylltedd, swyddi a buddsoddiad i'r rhanbarth 
  • Adfywio Glanfa'r Iwerydd: Cyflymu adfywio Bae Caerdydd, adeiladu Arena newydd a dod â mwy o swyddi ac ymwelwyr i'r ddinas.