The essential journalist news source
Back
16.
May
2025.
Y Diweddariad: 16 Mai 2025

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Caerdydd yn croesawu Hyb Newydd y Gwasanaeth Sifil
  • Gofalwr maeth o Gaerdydd yn annog eraill i faethu yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth hwn
  • Hyrwyddo amgylcheddau dysgu diogel i ddisgyblion a staff
  • Adeiladu Dyfodol Llewyrchus i Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Willows

 

Caerdydd yn croesawu Hyb Newydd y Gwasanaeth Sifil

Mae Cyngor Caerdydd wedi croesawu'r cyhoeddiad bod prifddinas Cymru wedi'i dewis fel un o'r 12 hyb rhanbarthol newydd ar gyfer adleoli'r Gwasanaeth Sifil y tu allan i Lundain.

Rhagwelir y bydd hyn yn dod â gwerth £729 miliwn o fudd economaidd i'r 13 ardal twf erbyn 2030.

Bydd y fenter hon yn arwain at 12,000 o swyddi, gan gynnwys 50% o rolau uwch a Swyddogion Llwybr Carlam (cynllun llwybr carlam i raddedigion Llywodraeth y DU) yn symud allan o Lundain, gan gynnig llwybrau gyrfa hyfyw i bobl sy'n gadael yr ysgol hyd at ysgrifenyddion parhaol mewn dinasoedd ledled y DU.

Bydd yr adleoli hefyd yn cynnwys cyfleoedd am secondiad rhwng llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, gan gyfrannu at wasanaeth cyhoeddus mwy integredig.

Mae sefydlu hyb newydd yng Nghaerdydd yn rhan o strategaeth i adael 11 adeilad yn Llundain, gan arbed £94 miliwn ac o bosibl yn cynnwys 12,000 o rolau i gyd.

Caerdydd yw'r unig hyb yng Nghymru, gan ymuno â dinasoedd eraill fel Belfast, Aberdeen, Glasgow, Caeredin, Bryste, Sheffield, Leeds, Birmingham, Newcastle, Manceinion Fwyaf, Darlington a Chaerefrog.

Ar hyn o bryd, mae 9,230 o rolau'r gwasanaeth sifil wedi eu lleoli yng Nghaerdydd. Mae dros 31,500 o rolau cyfwerth ag amser llawn wedi eu lleoli yng Nghymru, gyda 14 o brif adrannau'r Llywodraeth â phresenoldeb yn y wlad. Bydd miloedd yn fwy o swyddi'r llywodraeth nawr yn cael eu symud i'r 13 o ddinasoedd a threfi ledled y DU.

Darllenwch fwy yma

 

Gofalwr maeth o Gaerdydd yn annog eraill i faethu yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth hwn

Mae gofalwyr maeth yn annog eraill i ystyried maethu plentyn a chreu cysylltiadau oes yng Nghaerdydd.

Cynhelir Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch faethu fwyaf y flwyddyn, rhwng Mai 12 a Mai 25 eleni, gyda thema sy'n dathlu pŵer perthnasoedd.

Boed yn gyswllt clós rhwng gofalwr a phlentyn, y berthynas sy'n cael ei chreu gyda gweithwyr cymdeithasol cefnogol, neu'r cyfeillgarwch sy'n datblygu gyda gofalwyr maeth eraill o fewn cymuned, mae perthnasoedd cryf yn llinyn aur sy'n rhedeg trwy'r holl straeon maethu.

Yng Nghymru, mae dros 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru yn bwriadu recriwtio 800 o ofalwyr ychwanegol erbyn 2026.

Rhannodd Tanya ei stori am y perthnasoedd parhaol a ffurfiodd o ganlyniad i faethu trwy Faethu Cymru Caerdydd.

Dywedodd hi: "Fe wnaethon ni faethu brawd a chwaer am 9 mlynedd nes iddyn nhw symud i annibyniaeth. Maen nhw'n 21 a 18 nawr. Maen nhw'n dal i gadw mewn cysylltiad ac yn ymweld â ni yn aml, ac mae'r ddau yn dweud eu bod nhw'n ddiolchgar am y bywyd gawson nhw gyda ni gan ein bod wedi rhoi sefydlogrwydd iddyn nhw. Mae'n hyfryd eu gweld nhw'n tyfu'n oedolion hyderus, annibynnol sy'n dal i fod yn rhan o'n bywydau."

Darllenwch fwy yma

 

Hyrwyddo amgylcheddau dysgu diogel i ddisgyblion a staff

Mae Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion yn fannau diogel lle mae plant, pobl ifanc a staff yn cael eu trin â pharch ac urddas, mewn amgylchedd dysgu meithringar a chadarnhaol.

Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddiogelwch a lles myfyrwyr a staff, mae Cyngor Caerdydd wedi lansio ymgyrch newydd sy'n hyrwyddo amgylcheddau dysgu diogel i bawb sy'n eu mynychu.

Mae'r prif ffocws ar atgoffa cymunedau ysgol bod gan ddisgyblion a staff ysgolion hawl i fynychu eu lleoliad addysg, yn rhydd o gamdriniaeth ac unrhyw fath o ymosodiad ac na fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei ganiatáu a bod cadw ysgolion yn ddiogel yn ymdrech gydweithredol rhwng disgyblion, rhieni, ysgolion a'u cymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Rydym eisiau anfon y neges bod Caerdydd wedi ymrwymo i hyrwyddo amgylcheddau dysgu diogel a chadarnhaol i'r holl ddisgyblion a'r staff o'u cwmpas.

Darllenwch fwy yma

 

Adeiladu Dyfodol Llewyrchus i Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Willows

Mae disgyblion o Willows High ar fin cychwyn ar raglen gyfoethogi sydd wedi'i chynllunio i ddarparu profiad ymarferol mewn gyrfaoedd adeiladu a STEM.

Mae "Adeiladu Dyfodol Llewyrchus" yn brosiect cydweithredol rhwng Ysgol Uwchradd Willows a Morgan Sindall Construction, y contractwyr a ddewiswyd i ddylunio a darparu'r ysgol newydd sbon gwerth £60m. 

Mae'r rhaglen ar gyfer disgyblion Blwyddyn 8 a 9, a'r disgyblion hynny ym Mlwyddyn 10 sy'n arbenigo mewn meysydd sy'n gysylltiedig ag adeiladu, yn anelu at helpu dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu dewisiadau TGAU a'u llwybrau gyrfa yn y dyfodol. Trwy gyfres o sesiynau rhyngweithiol, bydd disgyblion yn cael cip gwerthfawr ar wahanol agweddau ar y diwydiant adeiladu, o reoli prosiect i gynaliadwyedd, sy'n cysylltu â'r cwricwlwm ac yn darparu cyfleoedd dysgu dilys.

Darllenwch fwy yma