The essential journalist news source
Back
23.
May
2025.
Y Diweddariad: 23 Mai 2025

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Cyngor teithio ar gyfer y gemau rygbi Ewropeaidd yn Stadiwm Principality ddydd Gwener a dydd Sadwrn
  • Arglwydd Faer newydd Caerdydd yn dechrau ei swydd ac yn cyhoeddi ei elusennau dewisol
  • Dathlu Wythnos Gweithredu ar Ddementia
  • Pennod newydd i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

 

Cyngor teithio ar gyfer y gemau rygbi Ewropeaidd yn Stadiwm Principality ddydd Gwener a dydd Sadwrn

Bydd Caerfaddon yn wynebu Lyon yn rownd derfynol Cwpan Her Rygbi Ewrop ddydd Gwener 23 Mai, a bydd Northampton yn wynebu Union Bordeaux Bègles yn Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Investec ddydd Sadwrn 24 Mai yn Stadiwm Principality

Gyda chic gyntaf nos Wener am 8pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau yn llwyr o 4pm tan ganol nos i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.

Mae cic gyntaf gêm dydd Sadwrn am 2.45pm. a bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau yn llwyr o 11am tan 7pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu cyrraedd a gadael y stadiwm yn ddiogel.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y gêm rygbi hon - felly cynlluniwch ymlaen llaw.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a'r cefnffyrdd, ewch i  wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Mae pobl sy'n mynd i'r digwyddiad yn cael eu cynghori'n gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw a chyrraedd y stadiwm yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.wales, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy am gêm nos Wener yma

Darllenwch fwy am gêm dydd Sadwrn yma

 

Arglwydd Faer newydd Caerdydd yn dechrau ei swydd ac yn cyhoeddi ei elusennau dewisol

Mae'r Cynghorydd Adrian Robson wedi'i urddo'n Arglwydd Faer newydd Caerdydd

Cyflwynwyd y gadwyn swyddogol i'r Cynghorydd Robson mewn seremoni yn Neuadd y Sir heddiw, dydd Iau, 22 Mai, yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Caerdydd, ac mae'n dod yn 121ain Arglwydd Faer Dinas a Sir Caerdydd.

Ag yntau'n un o gynghorwyr Caerdydd sydd wedi gwasanaethu hiraf, gyda gwasanaeth parhaus ers 2004, mae'r Cynghorydd Robson wedi cael gyrfa hir a llwyddiannus mewn gwleidyddiaeth ac mae wedi bod yn ymroddedig wrth gynrychioli ward Rhiwbeina ers dros ddau ddegawd. Yn ddilynwr brwd o rasio Formula One ac yn siaradwr cyhoeddus profiadol, mae wedi bod yn aelod o lawer o bwyllgorau gan gynnwys y Pwyllgor Cynllunio ac mae'n gyn-Gadeirydd y Pwyllgor Adolygu Polisi a Pherfformiad. Mae hefyd wedi eistedd ar Banel Penodi Llywodraethwyr Ysgolion. 

Bydd ei wraig, y Cynghorydd Jayne Cowan, yn gwasanaethu fel ei gymar yn y swydd yn ystod ei dymor, ac fel cynghorydd presennol Caerdydd sydd wedi gwasanaethu hiraf, gyda gwasanaeth parhaus ers 1999, bydd yn rhannu ymrwymiad yr Arglwydd Faer i'w cymuned leol a phobl Caerdydd. 

Gyda chefndir mewn cysylltiadau cyhoeddus, mae'r Cynghorydd Cowan yn aelod o'r Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio, Pensiynau, Cydbwyllgor Archifau Morgannwg ac ar y Panel Rhianta Corfforaethol ac mae wedi bod yn Llywodraethwr yn Ysgol Arbennig Greenhill ers 27 mlynedd.

Mae'r cwpl, a gyfarfu gyntaf yn 2001 ac a briododd yn Siambr Cyngor Caerdydd yn 2003, yw'r Arglwydd Faer a'r Arglwydd Faeres gyntaf ers dros 40 mlynedd lle mae'r ddau yn gwasanaethu fel cynghorwyr. 

Mae'r Arglwydd Faer wedi enwebu dwy elusen i'w cefnogi yn ystod ei dymor. Mae'r Corws Forget-Me-Not, a sefydlwyd yn Rhiwbeina i ddechrau, yn dod â'r llawenydd o ganu i bobl sy'n byw gyda dementia, a'r rheini sy'n eu cefnogi drwy drefnu sesiynau canu i bobl â phob math o ddementia, yn ogystal â'r teuluoedd, ffrindiau a staff proffesiynol sy'n gofalu amdanynt. 

Darllenwch fwy yma

 

Dathlu Wythnos Gweithredu ar Ddementia

Mae Caerdydd sy'n Deall Dementia yn nodi Wythnos Gweithredu ar Ddementia eleni (Mai 19 - 25) drwy godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diagnosis prydlon a chywir.

Mae'r mudiad, sy'n bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n gweithio gyda'i gilydd i wneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Deall Dementia, yn cefnogi wythnos weithredu flynyddol y Gymdeithas Alzheimer's unwaith eto i annog pobl i weithredu ar ddementia.

Mae derbyn diagnosis yn gam hanfodol i unigolion sy'n byw gyda dementia, gan ei fod yn eu galluogi i gael mynediad at wasanaethau gofal, triniaeth a chymorth hanfodol.

Mae'r wythnos hon yn gyfle amserol i dynnu sylw at y wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth sydd ar gael ar y wefan Caerdydd sy'n Deall Dementia, sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i'r rhai sy'n pryderu am eu cof, cyngor ymarferol a chyfeiriad at adnoddau a chefnogaeth bellach, yn ogystal â manylion am ddigwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd a gynhelir ledled y ddinas ar gyfer unigolion sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd.

Darllenwch fwy yma

 

Pennod newydd i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Ym mis Chwefror 2025, cytunwyd ar drefniant partneriaeth newydd i rannu a chryfhau cyfrifoldebau arweinyddiaeth rhwng Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.  

O fis Medi, bydd yr ysgol yn dechrau ar bennod newydd yn ei hanes, lle bydd y ddwy ysgol yn cydweithio am gyfnod o ddwy flynedd, gan gynnig ystod eang o fanteision gan gynnwys arweinyddiaeth strategol, strwythurau llywodraethu a rheoli i ganolbwyntio ar addysgu, dysgu a chodi safonau, rhannu adnoddau, a dysgu a phrofiadau cymdeithasol ehangach i ddisgyblion.   

Bydd Mr Matthew Evans, Pennaeth presennol Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, sydd â dros 15 mlynedd o brofiad arweinyddiaeth yn y Sector Cyfrwng Cymraeg yn ne Cymru, yn camu i rôl arwain newydd gyda chyfrifoldeb arweinyddiaeth strategol ar gyfer Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. "Rwy'n falch iawn o weithio ar draws y ddwy ysgol yn ystod y blynyddoedd nesaf, mewn rôl a gefnogir yn llawn gan yr Awdurdod Lleol, i adeiladu gallu arwain o fewn yr ysgolion er budd plant a phobl ifanc. Mae ysgolion yn ffynnu wrth weithio ochr yn ochr â'i gilydd, gweithio a dysgu oddi wrth ei gilydd, o fewn adrannau neu ar lefel arweinyddiaeth", meddai Mr Evans.   

Dywedodd: "Rwy'n edrych ymlaen at gryfhau gwaith rhagorol Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern ymhellach o fewn eu clwstwr cynradd, gan feithrin cysylltiadau cymunedol a sicrhau bod pob disgybl yn gallu ffynnu yn ein hamgylcheddau cyfrwng Cymraeg. Rwy'n edrych ymlaen at y cyfle y mae'r bartneriaeth hon yn ei gynnig i adeiladu ymhellach ar addysg cyfrwng Cymraeg o safon ledled y ddinas, a'i chryfhau."

Darllenwch fwy yma