5/6/2025
Mae cynigion i ffedereiddio Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg gyda Ffederasiwn y Seintiau wedi cael eu datgelu, gyda'r nod o sicrhau arweinyddiaeth hirdymor, gwella canlyniadau addysgol, a chyflymu'r broses o wella ysgolion yn Nwyrain Caerdydd.
Mae Ffederasiwn y Seintiau, sy'n cynnwys Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Holl Seintiau ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant, wedi dangos arweinyddiaeth gref a llwyddiant cydweithredol ers ei ffurfio ym mis Chwefror 2024. Byddai'r ffederasiwn arfaethedig yn ffurfioli'r bartneriaeth bresennol rhwng Ffederasiwn y Seintiau ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, sydd eisoes wedi profi effeithiau cadarnhaol trwy drefniadau arweinyddiaeth a rennir.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'r cynnig hwn yn adeiladu ar y cydweithrediad llwyddiannus sydd eisoes ar waith ac yn gam sylweddol ymlaen wrth sicrhau addysg gynaliadwy o ansawdd uchel i blant yn nwyrain y ddinas. Mae'n ymwneud â gwella ysgolion a chreu cymuned ysgol fwy cryf a gwydn sy'n gallu rhannu arbenigedd ac adnoddau er budd pob disgybl."
Ym mis Chwefror 2025, rhoddodd Estyn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg mewn Mesurau Arbennig, gan nodi'r angen am arweinyddiaeth sefydlog ac effeithiol. Mae'r ffederasiwn arfaethedig yn mynd i'r afael â'r argymhelliad hwn yn uniongyrchol trwy sicrhau'r strwythur arweinyddiaeth presennol a gwella gallu'r tîm arwain ar draws pob lefel.
Ni fyddai'r ffederasiwn yn arwain at unrhyw newidiadau i leoliad yr ysgolion na'r trefniadau derbyn, ond byddai'n galluogi'r ysgolion i weithio gyda'i gilydd ar flaenoriaethau cyffredin, cyfuno adnoddau, a chyflawni canlyniadau addysgol gwell. Mae hefyd yn cefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Caerdydd a'r strategaeth genedlaethol Cymraeg 2050 drwy wella'r ddarpariaeth Gymraeg ar draws yr ysgolion.
Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Mae hwn yn gam strategol i sicrhau bod y tair ysgol yn parhau i ffynnu. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn gyflawni argymhellion Estyn a darparu amgylchedd dysgu sefydlog, o ansawdd uchel i bob disgybl."
Mae'r cynnig ar hyn o bryd yn y cyfnod ymgynghori, ac mae ymarferion ymgysylltu eisoes ar y gweill gyda llywodraethwyr ysgolion, awdurdodau esgobaethol a rhanddeiliaid lleol. Bydd gweithgor ar y cyd yn cael ei sefydlu i lywio'r broses, a bydd ymgynghoriad ffurfiol â rhieni, staff a'r gymuned ehangach yn dilyn.
Mae ymchwil ac ymarfer wedi dangos manteision cydweithredu, ffedereiddio a threfniadau eraill lle mae ysgolion yn cael eu dwyn ynghyd i ddarparu addysg. Mae hyn wedi cynnwys adolygiad thematig ESTYN (2019) a Chanllawiau ar gyfer Proses Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir ar gyfer Awdurdodau Lleol ac Ysgolion (2023) sydd wedi ystyried yr ymchwil yn feirniadol a nodwyd y manteision allweddol canlynol fel rhan o'u casgliad:
- Strwythurau arweinyddiaeth strategol, llywodraethu a rheoli cryf i ganolbwyntio ar ddysgu, addysgu a chodi safonau
- Dysgu ehangach a phrofiadau cymdeithasol i ddysgwyr
- Cyfleoedd recriwtio deniadol a chadw staff
- Cyfleoedd newydd i staff gydweithio, cynyddu cymhelliant, lleihau llwyth gwaith drwy gynllunio a gweithgareddau ar y cyd
- Rhannu adnoddau
- Cyfrifoldebau ac atebolrwydd ar y cyd i blant ar draws cymunedau
- Gwasanaethau estynedig ar draws ysgolion ac amrywiaeth o weithgareddau, gofal plant, cymorth i rieni a mynediad cymunedol gan gefnogi cydlyniant cymunedol a helpu i gynnal darpariaeth addysg
Mae ymgysylltu â'r cynigion eisoes wedi dechrau gyda chyrff llywodraethu Eglwys yng Nghymru Llaneirwg a Ffederasiwn y Seintiau. Ymgynghorwyd ag Esgobaeth Trefynwy a Phennaeth Addysg Esgobaeth Llandaf a Threfynwy hefyd ac maent yn cefnogi'r cynnig.
Byddai cydbwyllgor/gweithgor yn cael ei sefydlu i weithio gyda'r Awdurdod Lleol ar y cynnig fyddai'n cynnwys cynrychiolwyr o bob corff llywodraethu/ysgol. Byddai ymgynghoriad ffurfiol hefyd yn cael ei gynnal gyda'r holl randdeiliaid fel rhan o'r broses hon.
Bydd y Cabinet yn cael ei argymell i awdurdodi'r broses ymgynghori yn ei gyfarfod ddydd Iau 19 Mehefin 2025. Bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y diwrnod ymaAgenda Cabinet ar Dydd Iau, 19eg Mehefin, 2025, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd
Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 10 Mehefin 2025.Agenda Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dydd Mawrth, 10fed Mehefin, 2025, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd