The essential journalist news source
Back
11.
June
2025.
Cyngor teithio ar gyfer Cyngherddau’r Haf yn Stadiwm Principality
 11/06/25

 Bydd cyfres o gyngherddau yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality yr haf hwn, o 19 Mehefin hyd at 1 Awst. Er mwyn sicrhau bod pawb sy'n mynychu'r cyngherddau yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel, bydd y ffyrdd o amgylch y stadiwm ar gau yn llwyr o 3pm tan hanner nos ar gyfer pob digwyddiad.

19 Mehefin - Chris Brown

23 Mehefin - Lana Del Ray

4 Gorffennaf a 5 Gorffennaf – Oasis

11 a 12 Gorffennaf - Stereophonics

19 Gorffennaf - Kedrick Lamar

1 Awst - Catfish and the Bottlemen 

Ac eithrio cyngherddau Oasis, pan fydd y gatiau'n agor am 4pm, bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 5pm ar gyfer y cyngherddau hyn.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn ar gyfer y cyngherddau hyn - felly cynlluniwch ymlaen llaw - i osgoi’r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio yn y maes parcio ger Arena Vindico ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a’r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Cynghorir yn gryf i unrhyw un sy'n mynd i’r cyngherddau hyn i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig ar  principalitystadium.wales, yn enwedig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Ar gyfer yr holl gyngherddau, bydd y ffyrdd canlynol ar gau fel rhan o’r trefniant cau ffyrdd llawn yng nghanol y ddinas am 3pm tan ganol nos.

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl:  Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa'r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd.  Y rheswm dros hyn yw sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.

·       Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i'r cyngherddau orffen ac am hyd at awr ar ôl iddyn nhw orffen er diogelwch teithwyr trên sy’n cyrraedd ac yn gadael yr orsaf drenau.

Ychwanegiadau: 
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Trenau

Er mwyn helpu i reoli'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y teithwyr, bydd Trafnidiaeth Cymru (TC) a Great Western Railway (GWR) yn gweithredu gwasanaethau ychwanegol ac estynedig (trenau gyda mwy o gerbydau nag arfer) i fynd â chwsmeriaid i'r digwyddiadau ac oddi yno'n esmwyth. 

Fodd bynnag, gallai peth gwaith peirianneg effeithio ar wasanaethau TC a GWR ac anogir teithwyr i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu taith - https://www.cymraeg.traveline.cymru/

O ddydd Llun 9 Mehefin tan ddydd Gwener 20 Mehefin, ac ar ddydd Sul 29 Mehefin, mae Network Rail yn gosod trac newydd yn ardaloedd Filton a Stoke Gifford, yn ogystal â chwblhau gwaith arall rhwng Pilning a Severn Beach.

Mae hyn yn golygu na fydd trenau uniongyrchol rhwng Bryste a De Cymru yn ystod y dyddiadau hyn, gan gynnwys ar gyfer Cyngerdd Chris Brown ddydd Iau 19 Mehefin.  Dylai cwsmeriaid sy'n teithio rhwng Bryste a De Cymru newid yng Nghaerloyw neu Cheltenham Spa, lle bydd trenau'n dal i fynd i/o Dde Cymru.

Bydd GWR yn gweithredu gwasanaeth ychwanegol o Gaerdydd i Bristol Temple Meads (trwy Gaerloyw) ar ôl y cyngerdd, gyda chymorth bysys.

Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau cyn gig Lana Del Ray ar ddydd Llun 23 Mehefin, lle bydd GWR yn gweithredu dau wasanaeth ychwanegol tuag at Bryste Temple Meads ar ôl y gig, yn ogystal â thrên ychwanegol i Gasnewydd, a gwasanaethau ychwanegol i Abertawe.

I gyd-fynd â dechrau taith hynod boblogaidd Oasis bydd GWR yn gweithredu chwe thrên ychwanegol i gael pobl adref, gan ddarparu bron i 4,000 o seddi ychwanegol, ar gyfer y ddwy noson.

Ar gyfer pob digwyddiad, mae rhybudd i bawb sy’n bwriadu teithio ar drên i wirio amser eu trên olaf adref, ac i ganiatáu digon o amser - Bydd system giwio yn dechrau o 10pm a bydd y ciwio ar gyfer gwasanaethau rheilffordd y brif linell ar y Sgwâr Canolog, a chiwiau'r Cymoedd yng nghefn yr orsaf.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i - https://trc.cymru/lleoedd/digwyddiadau 

Sylwer hefyd ar newidiadau pwysig i weithrediadau gorsafoedd ar ddiwrnodau digwyddiadau:

·       Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cau am 3pm

·       Bydd Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 10pm, oni bai bod gan gwsmeriaid ofynion hygyrchedd neu'n teithio i Fae Caerdydd.

Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn cynnal gwiriadau tocynnau cyn ac ar ôl y digwyddiadau.

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd cyfleusterau parcio a theithio digwyddiadau yn defnyddio’r maes parcio ger Arena Vindico ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd - CF11 0JS.

Bydd y man gollwng yng nghanol y ddinas ar Ffordd Tresilian.

Bydd staff ar y safle am 9am, ond bydd y bws cyntaf i ganol y ddinas yn gadael am 11am. Bydd y bws olaf yn ôl o ganol y ddinas am 12 hanner nos a bydd y safle yn cau’n fuan wedi hynny.

Y gost yw £15.  Arian parod yn unig.

Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod Digwyddiad (Ceir a Choetsys)

Cyrraedd yno:  Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr. 

Amserau parcio:   Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.  

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno:  Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £20 i geir a £30 i goetsys - mae taliadau cerdyn ar gael nawr.

Amserau parcio:   Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog.  Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol.  Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.   

Allwch chi feicio neu gerdded?

Bydd y llwybrau beicio a'r llwybrau beicio dros dro yn yr ardal cau ffyrdd yn dal i fod ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y cyngherddau. Fodd bynnag, oherwydd nifer y bobl a ddisgwylir, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.

Mae'r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd roi cynnig arni.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd:  Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia.  Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Ar gyfer yr holl gyngherddau, bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser gynt) yn cau am 3pm ac yn ailagor am hanner nos.