12/6/2025
Mewn dim ond chwe mis, mae Ffion, sy'n naw oed, wedi trawsnewid o fod yn un nad oedd yn siarad Cymraeg i fod yn un o'r tri dysgwr Cymraeg gorau yng Nghymru, diolch i gefnogaeth ac ymroddiad Uned Drochi Iaith Caerdydd. Mae ei thaith yn enghraifft wych o bŵer trochi iaith hwyr ac effaith addysg cyfrwng Cymraeg sy'n newid bywydau.
Ymunodd Ffion â'r Uned Drochi Iaith ym mis Tachwedd 2024. A hithau heb siarad Cymraeg o'r blaen, a heb fod neb yn siarad Cymraeg gartref a heb brofiad blaenorol o Eisteddfod yr Urdd, dechreuodd fynychu'r uned bedwar diwrnod yr wythnos, gyda diwrnod ychwanegol yn Ysgol Melin Gruffydd. Erbyn mis Ionawr 2025, roedd hi'n paratoi ar gyfer ei chystadleuaeth Eisteddfod gyntaf erioed.
Roedd ei chynnydd cyflym yn ddim llai na rhyfeddol. Ym mis Mawrth, enillodd y wobr gyntaf yn cynrychioli ysgolion Caerdydd yn yr Eisteddfod Gylch am adrodd 'Mewn Siop Anifeiliaid Anwes' gan y bardd Myrddin ap Dafydd. Y mis canlynol, llwyddodd eto yn yr Eisteddfod Sir ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gystadlu yn erbyn ysgolion o bob rhan o Gaerdydd a'r Fro. Yn rownd derfynol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, daeth Ffion yn drydydd allan o 19 o gyfranogwyr - cyflawniad anhygoel i rywun sydd ond wedi bod yn dysgu Cymraeg ers chwe mis.
Mae stori Ffion yn dyst i lwyddiant Uned Drochi Iaith Caerdydd, sydd wedi cefnogi bron 500 o blant a phobl ifanc ers 2010. Mae'r uned yn darparu amgylchedd croesawgar, cynhwysol i ddysgwyr o bob cefndir, gan eu helpu i ennill y sgiliau iaith sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn addysg cyfrwng Cymraeg a theimlo ymdeimlad o berthyn yn eu cymunedau.
Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, dywedodd Ffion: "Ar fy niwrnod cyntaf yn yr Uned Drochi doedd gen i ddim syniad beth oedd unrhyw un o'r athrawon yn ei ddweud! Nawr rwy'n cyfieithu llyfrau darllen cyfan i fy nheulu.
"Roedd yr Eisteddfod yn un o brofiadau gorau fy mywyd. Diolch i bawb wnaeth fy helpu i gyrraedd y llwyfan hwnnw a pherfformio - yn enwedig fy ffrindiau yn Ysgol Melin Gruffydd. Alla' i ddim credu fy mod wedi gallu gwneud cynifer o bethau anhygoel mewn cyn lleied o amser. Heb yr Uned Drochi ni fyddai dim o hyn yn bosib. Rydw i mor hapus fy mod i'n gallu siarad Cymraeg nawr."
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae taith anhygoel Ffion, o fod yn un nad oedd yn siarad Cymraeg i fod yn rownd derfynol yr Eisteddfod Genedlaethol mewn dim ond chwe mis, yn dyst i effaith drawsnewidiol addysg cyfrwng Cymraeg.
"Mae Caerdydd yn falch o hyrwyddo darpariaeth trochi iaith gynhwysol o ansawdd uchel drwy Uned Drochi Iaith Caerdydd, gan sicrhau bod pob plentyn, waeth beth fo'u cefndir, yn cael y cyfle i ffynnu yn ein hiaith genedlaethol. Mae'r ymrwymiad hwn yn ganolog i'n gweledigaeth o brifddinas wirioneddol ddwyieithog a dyfodol bywiog i siaradwyr Cymraeg."
Mae'r Uned Drochi Iaith yn cael ei chydnabod ledled Cymru fel model o arfer gorau. Mae'n chwarae rhan allweddol yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Caerdydd 2022-2032 ac mae'n cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ogystal, mae plant a phobl ifanc o bob cwr o'r byd yn manteisio ar y ddarpariaeth, y mae rhai ohonynt yn dysgu Cymraeg fel eu trydedd, pedwaredd neu hyd yn oed bumed iaith.
Mae'r uned hefyd yn arwain datblygiad proffesiynol ar gyfer canolfannau trochi eraill ac wedi datblygu adnoddau arloesol fel "Trochi a Gloywi", sydd bellach yn cael ei dreialu yn Sir Gaerfyrddin.
Fel y nododd Estyn yn ei adroddiad thematig ar Addysg Drochi Cymraeg, mae gwaith Uned Drochi Iaith yn rhagorol, gan gynnig arweiniad ac adnoddau gwerthfawr i ysgolion ledled Cymru.
Am ragor o wybodaeth am Uned Drochi Iaith Caerdydd ewch i https://www.trochiiaith.co.uk