The essential journalist news source
Back
1.
July
2025.
Dros 200 o ddisgyblion Caerdydd yn cychwyn ar brofiad gwaith sy'n llunio gyrfaoedd drwy Wobr Beth Nesaf Addewid Caerdydd

1/7/2025


Mae mwy na 200 o ddisgyblion o ysgolion a cholegau ledled Caerdydd yn cymryd eu camau cyntaf i'r byd gwaith yr haf hwn, diolch i Raglen Profiad Gwaith Gwobr Beth Nesaf Addewid Caerdydd.

Gan redeg drwy gydol mis Mehefin a Gorffennaf, mae'r fenter wedi'i chynllunio i ddarparu'r sgiliau, yr hyder a'r mewnwelediad sydd eu hangen ar bobl ifanc i ffynnu mewn addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Wedi'i theilwra i gyd-fynd â phynciau Safon Uwch a dyheadau gyrfaol pob myfyriwr, mae'r rhaglen yn rhoi disgyblion mewn cyswllt â dros 60 o gyflogwyr blaenllaw ar draws sectorau fel adeiladu, technoleg ariannol, diwydiannau creadigol, iechyd, addysg, a mwy.

Mae'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn cynnwys Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Fitzalan, Canolfan Adnoddau Arbenigol Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Canolfan Marion yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf a Choleg Caerdydd a'r Fro, yn ogystal â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Yn ogystal â'r ystod o gyfleoedd a gynigir i bobl ifanc, mae'r fenter hefyd yn cynnig nifer o fanteision i gyflogwyr, gan gynnwys;

 

  • Datblygu Talent y Dyfodol: Canfod a meithrin darpar gyflogeion y dyfodol.
  • Safbwyntiau Newydd: Cael cipolwg ar safbwyntiau myfyrwyr.
  • Datblygu'r Gweithlu: Cryfhau sgiliau arwain a mentora.
  • CCC a Chynhwysiant: Cefnogi pobl ifanc amrywiol a chymunedau lleol.
  • Ymwybyddiaeth Brand: Meithrin gwelededd hirdymor ymhlith ceiswyr gwaith y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'r Wobr Beth Nesaf yn enghraifft bwerus o sut y gall cydweithio rhwng addysg a diwydiant agor drysau i bobl ifanc. Trwy gysylltu myfyrwyr â phrofiadau yn y byd go iawn, rydym nid yn unig yn eu helpu i lunio eu dyfodol, ond hefyd yn adeiladu gweithlu cryfach, mwy cynhwysol ar gyfer Caerdydd."

 

Mae'r digwyddiad yn dilyn effaith lwyddiannus rhaglen y llynedd, gydag uchafbwyntiau allweddol yn cynnwys;

 

  • 92% o bobl wedi dysgu mwy am yrfaoedd o ddiddordeb
  • 94% wedi datblygu sgiliau newydd
  • 100% wedi gwella eu dealltwriaeth o ymddygiad yn y gweithle
  • 90% wedi cysylltu pynciau yn yr ysgol â gyrfaoedd yn y dyfodol
  • 92% yn teimlo'n fwy parod ar gyfer eu dyfodol

 

Dyfyniadau gan Gyflogwyr:

"Fe wnaeth croesawu myfyrwyr ganiatáu i'n tîm fyfyrio ar y balchder a'r pwrpas sydd gennym yn y Gwasanaeth Sifil. Daeth eu hegni â phersbectif newydd ac rydym yn gobeithio croesawu rhai ohonynt yn ôl yn y dyfodol." Nadine Davies, Cyfarwyddwr Grŵp Cymru, Y Gwasanaeth Sifil.

"Rhoddodd y rhaglen hon gyfle gwych i ni hyrwyddo gyrfaoedd nyrsio ar adeg pan nad fu erioed mor bwysig." Emma Bendle, BIP Caerdydd a'r Fro.

"Fe wnaeth y disgyblion ein syfrdanu'n llwyr. Roedd eu hagwedd, eu hymddygiad a'u cyfraniadau yn eithriadol." Jon Garbutt, Arweinydd Tîm Cymorth Arbenigol, Dŵr Cymru.

"Pleser oedd croesawu'r myfyrwyr. Mae'n gyffrous gwybod bod ganddynt ddyfodol mor ddisglair o'n blaenau." Helen John, Rheolwr Datblygu Busnes, Curtins.

Mae Adduned Caerdydd yn cefnogi'r weledigaeth y bydd y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael yn y byd gwaith.

Os ydych chi'n fusnes a allai gynnig cyfleoedd cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant ôl-16 neu os oes gennych ddiddordeb mewn tynnu sylw at y gwahanol lwybrau sy'n arwain at eich sefydliad neu sector, hoffai tîm Addewid Caerdydd glywed gennych.

 

I gael rhagor o wybodaeth neu i ddarganfod sut y gall eich busnes gefnogi'r rhaglen, anfonwch e-bost ataddewidcaerdydd@caerdydd.gov.ukgyda ‘Cyfleoedd Beth Nesaf' yn y llinell pwnc, a chan gynnwys dolen i'r cyfle, logo'r cwmni, y dyddiad cau ac unrhyw feini prawf cymhwystra (18+ ac ati).

Bydd y rhain yn cael eu hyrwyddo trwy wefan ‘Beth Nesaf?' -whatsnextcardiff.co.uk/cy- siop un stop ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed, yn cynnig cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill yng Nghaerdydd. Mae'r platfform hwn yn symleiddio'r broses o archwilio'r opsiynau sydd ar gael, gan sicrhau y gall pobl ifanc wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.