The essential journalist news source
Back
2.
July
2025.
Gweddnewid hen adeilad swyddfa yn cyflwyno cartrefi cyngor newydd Bae Caerdydd
2/7/25

Mae'r grŵp cyntaf o 78 o fflatiau cyngor newydd o ansawdd uchel mewn hen floc swyddfa ym Mae Caerdydd yn barod i groesawu tenantiaid newydd.

Mae tri deg tri o gartrefi newydd yn hen adeilad swyddfa Harbwr Scott wedi cael eu trosglwyddo i Gyngor Caerdydd yr wythnos hon, wrth i'r adeilad gael ei drawsnewid i helpu i roi hwb i'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy yn y brifddinas.

Cafodd y Cyngor yr adeilad gan y datblygwr eiddo Rightacres y llynedd fel rhan o'i ymateb i'r heriau a grëwyd gan gyflenwad annigonol o gartrefi cyngor yn y ddinas, ynghyd â nifer ddigynsail o unigolion a theuluoedd sydd angen cymorth tai a digartrefedd.

Mae'r buddsoddiad yn ateb arloesol i'r pwysau hyn, gan ddarparu cartrefi parhaol mawr eu hangen yn llawer cyflymach na thrwy ddulliau adeiladu traddodiadol, tra bod rhaglen adeiladu tai sefydledig yr awdurdod - y mwyaf o'i bath yng Nghymru - yn darparu cartrefi newydd i helpu i ateb y galw ledled y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:   "Ar anterth yr argyfwng tai pan oedd ein gwasanaethau o dan bwysau enfawr, ni adawodd y Cyngor un garreg heb ei throi pan ddaeth i archwilio opsiynau i helpu i leddfu'r pwysau hynny.

"Roedd Harbwr Scott yn un ymhlith llawer o atebion a ddatblygwyd gennym ac mae'n wych gweld yr hen adeilad masnachol hwn yn cael ei drawsnewid yn fflatiau trawiadol gyda golygfeydd gwych yng nghanol Bae Caerdydd. Rwy'n falch iawn o'r cartrefi newydd hardd hyn rydyn ni wedi'u creu yma."

Mae cartrefi Harbwr Scott yn cynnwys cymysgedd o fflatiau un, dwy a thair ystafell wely, sy'n cynnwys cynlluniau eang, modern a ffenestri mawr, gyda golygfeydd godidog ar draws Bae Caerdydd. Mae'r trawsnewidiad hefyd yn cynnwys gwaith allanol cysylltiedig a chreu gofod swyddfa newydd ar y llawr gwaelod.

Bydd pob un o'r 78 o fflatiau yn cael eu cynnig fel tenantiaethau parhaol y Cyngor, gyda'r mwyafrif wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer teuluoedd. Mae menter gosod tai arbennig ar waith a gynlluniwyd i gefnogi trigolion lleol yn Butetown, sy'n cynnwys helpu teuluoedd sydd ar hyn o bryd yn orlawn a chynorthwyo aelwydydd sy'n edrych i symud i eiddo llai - a thrwy hynny ryddhau cartrefi mwy i'r rhai mewn angen.

Disgwylir i'r 45 o fflatiau sy'n weddill gael eu cwblhau cyn diwedd y flwyddyn.

Am fwy o wybodaeth am raglen datblygu tai Cyngor Caerdydd, ewchDatblygiadau tai