The essential journalist news source
Back
11.
August
2025.
Dathlu Ysgol Pencae yn arolygiad diweddaraf Estyn am ei gofal, ei chwricwlwm a’i hysbryd cymunedol rhagorol

11/08/25

Mae Ysgol Pencae, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Llandaf, wedi derbyn canmoliaeth ddisglair yn ei hadroddiad arolygu diweddaraf gan Estyn.

A group of children playing with building blocks AI-generated content may be incorrect.

Mae'r arolygiad yn dweud bod yr ysgol yn "gymuned ofalgar a chynhwysol" lle mae disgyblion yn ffynnu mewn amgylchedd teuluol a chefnogol. Canmolodd arolygwyr arweinyddiaeth gref yr ysgol ac ymdrechion cydweithredol staff i ddarparu cwricwlwm cyfoethog a diddorol.

Mae'r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:

  • Ymddygiad ac empathi rhagorol gan ddisgyblion: Mae bron pob disgybl yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus, gan ddangos agweddau aeddfed a pharchus.

  • Cynnydd academaidd cryf: Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn mewn llythrennedd, rhifedd, sgiliau digidol, a sgiliau ehangach.

  • Ethos ac arweinyddiaeth strategol cynhwysol: Canmolwyd y pennaeth a'r dirprwy bennaeth am feithrin diwylliant cartrefol a gosod disgwyliadau uchel.

  • Cyfoethogi creadigol a diwylliannol: Mae disgyblion yn elwa o gyfleoedd fel gweithdai drama, prosiectau eco-dai, a dathliadau wythnosau rhyngwladol.

  • Cymorth cadarn ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol: Mae'r ysgol yn darparu cymorth cynhwysol ac effeithiol i bob dysgwr.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ymrwymiad yr ysgol i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg, gyda mentrau fel y Criw Cŵl Cymraeg a gweithgareddau sy'n hyrwyddo amrywiaeth a dinasyddiaeth.

Gwnaeth Estyn un argymhelliad: darparu cyfleoedd mwy pwrpasol i'r disgyblion ieuengaf ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol, yn enwedig mewn lleoliadau awyr agored. Bydd yr ysgol nawr yn mynd i'r afael â hyn yn ei chynllun gweithredu.

Dywedodd Siwan Dafydd, Pennaeth Ysgol Pencae: "Rydym wrth ein bodd gyda'n hadroddiad Estyn, sy'n tynnu sylw at gryfder cymuned agos Ysgol Pencae, lle mae lles disgyblion yn allweddol, ein hunaniaeth Gymreig gref a'n hethos sy’n gynhwysol a yn ofalgar ac yn parchu pobl. Rydym yn arbennig o falch ei fod yn cydnabod ein dysgwyr hapus, empathig sy'n cael eu sbarduno i ddysgu, llwyddo a chyrraedd safonau uchel.

Arwyddair ein hysgol yw Ymdrech a Lwydda, ac mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu hyn i’r dim, gan ei fod yn dathlu’r gwaith tîm rhagorol rhwng ein staff ymroddedig, ein disgyblion eithriadol, a’n teuluoedd cefnogol."

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg: "Dylai cymuned gyfan Ysgol Pencae deimlo'n hynod falch o'r adroddiad hwn sy'n tynnu sylw at ymroddiad y staff a brwdfrydedd y disgyblion.

"Yn ei adroddiad, mae Estyn wedi nodi bod yr ysgol yn lle y mae plant yn cael eu meithrin, eu herio a'u dathlu. Llongyfarchiadau.”

Adeg yr arolwg, roedd 207 o ddisgyblion ar gofrestr Ysgol Pencae, gyda 3.9% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, 2% o’r disgyblion wedi eu nodi ag anghenion dysgu ychwanegol a 52.4% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.