11/08/25
Mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn falch o gyhoeddi bod y cynllun cyfnewid ieuenctid hirsefydlog gyda Chanolfan Ieuenctid Stammheim yn Stuttgart, yr Almaen, yn dychwelyd.
Rhwng 1 a 9 Awst, croesawodd Canolfan Ieuenctid Gogledd Trelái bobl ifanc o Stuttgart yn yr hyn sy'n nodi'r bennod ddiweddaraf mewn partneriaeth sydd wedi rhychwantu dros bum degawd, y gyfnewidfa ieuenctid hiraf yn Ewrop
Mae'r daith gyfnewid eleni yn arbennig gan ei bod yn cyd-fynd â 70 mlynedd ers y gefeillio rhwng Caerdydd a Stuttgart. I goffáu'r garreg filltir hon, cynhaliwyd Diwrnod Cyfnewid Diwylliannol ddydd Mercher 6ed Awst yng Nghanolfan Ieuenctid Gogledd Trelái.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfa ffotograffau a phodlediad o deithiau cyfnewid yn y gorffennol, gweithgareddau gardd gymunedol, teithiau cyfnewid ieithyddol, pobi cacennau Cymreig, a pherfformiadau cerddorol gan gyfranogwyr.
Mynychwyd y dathliad gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Adrian Robson, a groesawodd y digwyddiad, "Mae'n anrhydedd fawr croesawu ein ffrindiau o Stuttgart i Gaerdydd unwaith eto. Mae'r cynllun cyfnewid ieuenctid hwn nid yn unig yn ddathliad o'n hanes a rennir ond yn atgof pwerus o bwysigrwydd cyfeillgarwch rhyngwladol, dealltwriaeth ddiwylliannol, a'r cyfleoedd rydyn ni'n eu creu i bobl ifanc. Wrth i ni nodi 70 mlynedd o efeillio gyda Stuttgart, rydym hefyd yn dathlu'r dyfodol - un sy’n seiliedig ar gydweithio, parch, ac egni bywiog ein hieuenctid."
Roedd aelodau o Gymdeithas Caerdydd Stuttgart, cynghorwyr lleol, gweithwyr ieuenctid a chyfranogwyr o gynlluniau cyfnewid dros y blynyddoedd, hefyd yn bresennol, gan dynnu sylw at y cyfeillgarwch parhaol a'r cysylltiadau diwylliannol rhwng y ddwy ddinas, a dathlwyd effaith a phwysigrwydd y rhaglen.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb a Chefnogi Pobl Ifanc, y Cynghorydd Peter Bradbury; "Mae Caerdydd wedi gefeillio â Stuttgart ers blynyddoedd lawer gyda'r berthynas rhwng ein dwy ddinas yn parhau i fod yn gryf. Wrth i Gaerdydd a Stuttgart barhau i groesawu teithiau cyfnewid ieuenctid, mae hyn yn galluogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol, ennill sgiliau newydd a datblygu cyfeillgarwch.”
Fis diwethaf, cymerodd Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd ran mewn digwyddiad coffa yng Nghastell Caerdydd, gan gyflwyno effaith cynlluniau cyfnewid ieuenctid rhyngwladol a chroesawu dirprwyaeth o 12 ymwelydd o Stuttgart i Ganolfan Ieuenctid Gogledd Trelái.
I ddysgu mwy am Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd a'u rhaglenni rhyngwladol, ewch i https://www.cardiffyouthservices.wales/cy/