The essential journalist news source
Back
14.
August
2025.
Dathlu llwyddiant Safon Uwch ledled Caerdydd – 2025
- no title specified

14/8/2025

 

Mae heddiw yn foment falch i Gaerdydd wrth i fyfyrwyr ledled y ddinas dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch a Safon UG. Unwaith eto, mae perfformiad Caerdydd yn nodedig, gyda chanlyniadau'n uwch na chyfartaledd Cymru.
 


 
 

Yn ôl canlyniadau TAG dros dro CBAC, mae 36.3% o raddau Safon Uwch Caerdydd yn A* i A, o'i gymharu â 29.5% ledled Cymru. Cyflawnodd 98.6% o geisiadau raddau A* i E, a sicrhaodd 82.8% raddau A* i C, o'i gymharu â 77.2% yn genedlaethol.

 

Mae cymwysterau galwedigaethol, gan gynnwys dyfarniadau CBAC a Gwneud i Gymru, wedi'u hasesu gan ddefnyddio safonau cyn y pandemig. Mae'r canlyniadau'n uwch na'r rhai yn 2019 cyn y pandemig a chyn i system gymwysterau Cymru wneud addasiadau, i ystyried yr aflonyddwch yr oedd dysgwyr wedi’i brofi. Maent ychydig iawn yn is na chanlyniadau 2024 - a nododd y cam olaf wrth drosglwyddo yn ôl i drefniadau cyn y pandemig yn system gymwysterau Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu tuedd gyson ledled Cymru.

 

Eleni, mae myfyrwyr Caerdydd ymhlith y cyntaf yng Nghymru i dderbyn Lefel 3 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Cafodd y cymhwyster hwn ei gyflwyno yn 2023 i ddisodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch ac mae'n cyfateb i Safon Uwch. Mae'n pwysleisio sgiliau ymarferol ac mae'n cael ei gydnabod yn eang gan brifysgolion a chyflogwyr.

 

 

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a’r Aelod Cabinet dros Addysg: “Llongyfarchiadau i bob myfyriwr a gafodd ei ganlyniadau heddiw. Mae eich ymroddiad a'ch gwaith caled i’w ganmol. Mae'n galonogol gweld cynnydd academaidd parhaus Caerdydd, gyda chanlyniadau'n rhagori ar gyfartaledd Cymru unwaith eto, a bod perfformiad ledled y ddinas eleni wedi parhau i godi ar gyfer 2025.

 

"Wrth i'n pobl ifanc gychwyn ar gam nesaf eu taith, boed mewn addysg uwch, cyflogaeth neu hyfforddiant - rydym yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw. Hoffwn hefyd ddiolch o galon i'n hysgolion, athrawon, a staff cymorth am eu hymrwymiad diwyro i lwyddiant myfyrwyr.

 

"I unrhyw ddisgyblion sy'n ansicr am eu camau nesaf, mae cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar gael ar lwyfan Beth Nesaf www.whatsnextcardiff.co.uk/cy/

Mae Beth Nesaf? yn llwyfan ar-lein i bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n dwyn gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd mewn un lle a fydd yn helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws dod o hyd i wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i’r dyfodol.

 

Gall myfyrwyr sy'n ystyried eu camau nesaf ymweld â'r platfform Beth Nesaf yn https://www.whatsnextcardiff.co.uk/cy/. Mae'r adnodd hwn yn cynnig gwybodaeth gynhwysfawr am addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a chyfleoedd entrepreneuriaeth.

Mae’r llwyfan wedi’i ddatblygu gan Addewid Caerdydd, sef menter gan y Cyngor i ddwyn ynghyd y sectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â’r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd yn y byd gwaith. 

Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am fynd i'r coleg, y brifysgol, paratoi ar gyfer gwaith, interniaeth, hyfforddeiaeth a chyfleoedd gwirfoddoli, swyddi a phrentisiaethau a hyd yn oed gwybodaeth am ddechrau busnes newydd.

 

*Sylwer:  Mae'r holl ystadegau yn rhai dros dro ac wedi’u seilio ar ganlyniadau TAG, Safon Uwch ac UG CBAC yn unig.

 

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, nid yw CBAC yn rhyddhau ffigurau Cymru gyfan ar gyfer canlyniadau CBAC yn unig.  Fodd bynnag, mae ffigurau Cymru gyfan ar gyfer pob bwrdd ar gael.  Gan nad yw CBAC yn rhyddhau ffigyrau'r holl fyrddau fesul ALl neu ysgol, nid yw'n bosibl gwneud unrhyw gymariaethau dilys o ffigurau'r ALl yn erbyn tueddiadau cenedlaethol.